[Click for English below]
Rwy’n llawn cyffro i rannu’r newyddion bod ychydig o fy mhaentiadau diweddara yn rhan o arddangosfa, o’r enw, ‘Y Ffordd Rwy’n Ei Weld’, ym Mhafiliwn Môr-rodfa Penarth. Trefnwyd yr arddangosfa hon gan y grŵp celfyddyd greadigol a ffotograffiaeth, Penarth Lens Friends, dan arweiniad Inga Krik.
Gaethom ni fore agored ar ddydd Sul, gyda pica maen, coffi ac afalau wedi’u trefnu’n gelfydd!





Lluniau gan Inga Krik & Pete
Dyma’r tro cyntaf dwi wedi arddangos fy ngwaith, ar ôl dod nôl i beintio yn eitha diweddar. Cyn 2020, cerddoriaeth oedd fy mhrif ffocws, ond pan gaeth popeth ei ganslo yn nryswch ac anhrefn y pandemig, ro’n i’n teimlo bod angen i mi wneud rhywbeth tawel, araf a heddychlon fy mod i’n gallu gwneud ar ben fy hun, yn fy swigen bach fy hun. Dyna sut des i nôl i beintio.
Yn ystod y blynyddoedd diweddaf, dw i wedi abrofi gyda gwahanol gyfryngau, ond yn fwyaf diweddar, dw i wedi ffeindio pastelau meddal eto. Ro’n i wedi anghofio faint dw i wrth fy modd gyda’r cyfrwng hwn! Gallwch chi creu tirweddau mor feddal, breuddwydiol gyda fe, a’i haenu i greu tonau diddorol, golau sy’n tywynnu a chysgod dwfn. Bydda i’n bendant yn arbrofi mwy gyda’r cyfrwng hwn!
Dyma beth ysgrifennais i ar gyfer yr arddangosfa:
“Mae Angie Lydia Kirby yn amgylcheddydd, artist, ysgrifellydd, cantores a chyfansoddydd o Gaerdydd. Mae’r detholiad hwn wedi’i ysbrydoli gan ei chariad am natur; ymdrech i adlewyrchu’r ddawns fywiog rhwng golau a lliw a welir yn y byd naturiol. O arwyddion gobeithiol cyntaf y gwanwyn – mae’r coed a’r daffodiliau yn dihuno o’u cwsg ac yn torheulo yn heulog yr hwyr, i liwiau machlud meddal, breuddwydiol o’r haf dwfn, i olau oer, hollol ganol gaeaf, wedi gwrthbwyso gan dail yr hydref yn pydru a mwsoglau gwyrdd llachar.”
Os dych chi’n lleol i Gaerdydd Penarth, neu dych chi’n ffansïo ymweld, dewch i weld rhai gweithiau celf ardderchog a chefnogi grŵp hyfryd o artistiaid lleol!
[English]
I’m very excited to share the news that a few of my most recent paintings are part of an exhibition, called ‘The Way I See It’ at Penarth Pier Pavilion for the month of June (2026). This exhibition has been organised by the creative art and photography group Penarth Lens Friends, led by illustrator and photographer, Inga Krik.
We had an open morning on Sunday, with ‘pica maen’ (Welsh cakes), coffee and artfully arranged apples!

Photo credit: Angie Kirby
This is the first time I’ve exhibited my work, having come back to painting fairly recently. Prior to 2020, music was my main focus, and when everything got cancelled amongst the confusion and chaos of the pandemic, I found I needed to retreat to something quiet, slow and peaceful that I could do on my own, in my own little bubble. This is how I found my way back to painting.
The last few years I’ve experimented with various mediums, but most recently I’ve found pastels again. I had forgotten how much I love them! You can create such soft, dreamy landscapes with them and layer them to create interesting tones, suffused, glowing light and deep shadow. I will definitely be experimenting more with this medium!
“Angie Lydia Kirby is an environmentalist, artist, wordsmith and singer-songwriter from Cardiff. This selection of paintings has been inspired by her love for nature; an attempt to capture the ever-changing play of light and colour found in the natural world. From the first hopeful signs of spring – trees and daffodils waking from their slumber and basking in evening light, to the hazy, dreamy sunset colours of deep summer, and to the cold, stark light of mid-winter, off-set by decaying autumn leaves and vivid green mosses.”
If you’re local to Cardiff Penarth, or indeed fancy a visit, please pop along to see some fabulous artworks and support a lovely bunch of local artists.